Gwaith Haearn Shon Eilian:
Amdanom ni
Gwaith Haearn Shon Eilian: amdanom ni
Sefydlwyd Gwaith Haearn Shon Eilian ym 1997 gan Shon Eilian Jones. Ehangodd y busnes yn sydyn iawn ac ers hynny mae o wedi symud i adeilad mwy ar Stâd Ddiwydiannol Cibyn yng Nghaernarfon, Gogledd Cymru.
Mae’r adeilad newydd ddigon mawr i ddarparu ar gyfer prosiectau mawr ac adrannau adeileddol. Mae gan y gweithdy gyfarpar helaeth a chanddo’r hyblygrwydd i gynllunio a chynhyrchu adeileddau mawr a bach.
Mae’r cwmni’n defnyddio weldwyr wedi’u codio (DNV i EN287-288 ar Alwminiwm, Dur Gloyw a Dur Carbon). Mae ein staff yn ymfalchïo mewn sicrhau gwasanaeth o ansawdd a chynhyrchu cynhyrchion celfydd sy’n gwrthsefyll prawf amser.
Rydym yn gweithredu atebion arbenigol o wneuthuriad i arsefydliad. Rydym yn anelu at fodloni ein cwsmeriaid drwy gwblhau’r gwaith i’r safon uchaf posibl. Mae ein prisiau cystadleuol, cyflymder y gwaith a’n sylw i fanylder yn sicrhau fod ein cwsmeriaid yn dod yn eu holau. Rydym yn cyflenwi’r cynnyrch a’r gwasanaeth cywir a sicrhau gwerth am arian. Dyna pam bod ein holl gwsmeriaid yn ein defnyddio dro ar ôl tro.
Rydym yn cymryd Iechyd a Diogelwch o ddifrif yn ein hadeiladau ni yn ogystal â rhai ein cwsmeriaid. Rydym yn cydymffurfio’n llawn gyda’r holl ddeddfwriaethau a chanllawiau Iechyd a Diogelwch perthnasol. Ar gyfer gwaith yn cynnwys arsefydlu, mae risg Iechyd a Diogelwch yn cael ei ddynodi’n glir. Cynllunnir y gwaith i isafu’r risgiau hynny ac os na ellir osgoi risg, yna cymerir yr holl ragofalon ac amddiffyniadau priodol. Mae gan ein gweithwyr y cymwysterau Iechyd a Diogelwch priodol ac maen nhw’n derbyn hyfforddiant rheolaidd yn y maes pwysig hwn. Mae bob gweithiwr yn cael ei hyfforddi mewn arferion gweithio diogel a sut i weithredu’r holl beiriannau’n ddiogel a chyfrifol.
Mae ein hanes balch dros 10 mlynedd yn cynnwys gweithio gyda chwsmeriaid megis:
First Hydro- United Utilities
- Cyngor Gwynedd
- CADW
- Portmeirion
- Cemex Quarries
- RNLI
- Hufenfa De Arfon
- Snowdonia National Park
- Dwr Cymru Welsh Water
